Wel dyro eto gymhorth rhwydd

1,(2),3,4.
(Cymhorth a bendith)
Wel! dyro eto gymhorth rhwydd,
  Arglwydd yr arglwyddi;
Lle'r amlhaodd pechod cas,
  Gwna di i'th ras ragori.

Rho ddawn a goleu, Arglwydd Iôr,
  I draethu'r cynghor dwyfol;
Ac agor di y galon gau,
  I dderbyn d'eiriau nefol.

Dy fraich fo mewn gweithrediad hael,
  I gaffael buddugoliaeth;
Dy air yn gryf i weini hedd,
  O rinwedd iachawdwriaeth.

Perffeithia, Ior, dy nerth sy fawr,
  Yn wyneb dirfawr wendid;
Rho i'r newynog, tlawd, a chaeth,
  Ysbrydol faeth a rhyddid.
Thomas Jones 1756-1820

Tôn [MS 8787]: Ferry (Psalmody [J Green] 1751)

gwelir:
  O Arglwydd Dduw'r Hwn bïa(u)'r waith
  Rho ddawn a goleu Arglwydd Iôr
  Tyr'd Ysbryd Sanctaidd dangos rym

(Help and blessing)
Now, give again ready help,
  O Lord of Lords!
Where hated sin multiplied,
  Make thou thy grace overcome.

Give gift and light, Sovereign Lord,
  To expound the divine counsel;
And open thou the locked heart,
  To receive thy heavenly words.

Thy arm be in generous action,
  To grasp victory;
Thy word strong to serve peace,
  From the virtue of salvation.

Perfect, Lord, thy strength which is great,
  In the face of enormous weakness;
Give to the starving, poor, and captive,
  Spiritual nourishment and freedom.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~